Capoeira Mocambo

Gogledd Cymru

Capoeira Mocambo

About The Group

Dosbarthiadau

Info about classes and locations

Monitor Colin

About Colin

Resources

Videos and Online Resources

Hanes Capoeira

Math o gelfyddyd o Frasil yw capoeira ac mae’n gyfuniad o ddawns, cerddoriaeth, celfyddyd filwrol a gemau theatraidd. Fe’i datblygwyd gan gaethweision Affricanaidd ym Mrasil ac mae’n seiliedig ar draddodiadau Affricanaidd. Defnyddiwyd capoeira gan y caethweision fel rhan o’u gwrthryfel. Dan gochl dawns ddefodol fe gelwyd rhag y goruchwylwyr Portiwgalaidd wir fwriad yr acrobateg, y symudiadau troed, yr ymosod cynnil a’r symudiadau osgoi amddiffynnol.

Wedi i’r Portiwgaliaid ddarganfod Brasil yn y flwyddyn 1500, buan iawn y dechreusant fasnach mewn caethweision ar draws yr Iwerydd. Parhaodd hyn yn gyfreithlon tan 1888. Yn ystod y pedair canrif hynny, dygwyd tua 6 miliwn o bobl o’u cartrefi yn Affrica a’u cadw’n gaethweision ym Mrasil. Cafodd capoeira, a dulliau eraill o fynegi diwylliant Affricanaidd, eu gwneud yn anghyfreithlon a’r gosb i’r rhai a gâi eu dal yn eu hymarfer fyddai curfa dost.

Pan ddiddymwyd caethwasiaeth ar ôl pasio’r “Ddeddf Aur” ym Mrasil, llosgwyd yr holl gofnodion er mwyn sicrhau na allai neb hawlio iawndal. Ni roddwyd i’r cyn-gaethweision unrhyw fodd newydd o ennill bywoliaeth na tho uwch eu pennau na chymorth cymdeithasol neu economaidd o fath yn y byd.

Cafodd capoeira ei wneud yn gyfreithlon o’r diwedd yn 1937. Mae llawer o’r diolch am hyn i’r Mestre Bimba a ddatblygodd gapoeira “rhanbarthol” newydd gan hepgor llawer o’r defodau Affricanaidd ac ychwanegu mwy o dechnegau a dulliau hyfforddi yn deillio’n uniongyrchol o gelfyddyd filwrol. Wedyn fe ddiffiniodd y rhai oedd yn dymuno cynnal y traddodiadau eu harferion fel “Capoeira Angola”. Ers y 1970au mae myrdd o wahanol ddulliau wedi’u datblygu a gelwir y rhain yn “Contemporanea” (Cyfoes).

Capoeira Modern

Mae capoeira yn fath o chwarae, yn her ac yn ddialog corfforol rhwng dau chwaraewr (“Capoeiristas”) yng nghanol cylch (“Roda”). Yna mae Capoeiristas eraill o amgylch y cylch yn defnyddio rhythmau a chaneuon er mwyn pennu pa reolau, amcanion a chyflymder y mae’n rhaid i’r ddau yn y canol gadw atynt.

Caiff cerddorfa’r capoeira ei harwain gan fwa un tant o’r enw Berimbau, gydag offerynnau taro penodol i’w gefnogi, ac fe genir caneuon penodol mewn Portiwgaleg.

Fel rheol mae’r gêm (Jogo) yn gyfle i’r Capoeiristas geisio cael y gorau ar ei gilydd drwy:

  • Ragori o ran eu campau acrobatig
  • Meddiannu’r gofod gan darfu ar lif naturiol symdiadau’r gwrthwynebydd
  • Symud yn annisgwyl gan wneud i’r gwrthwynebydd golli ei gydbwysedd.

Mae capoeira yn unigryw gan ei fod yn ddigwyddiad cymdeithasol lle gall unrhyw ddau chwaraewr gymryd rhan waeth beth fo eu lefel neu eu gallu. Mae pob gêm o gapoeira yn unigryw a byrfyfyr.

Cafodd symundiadau capoeira ddylanwad eang ar ddawns gyfoes, dawns stryd/breg-ddawns a chelfyddyd filwrol gyda choreograffi a elwir yn “dricio”.

Mae’r “Centro Cultural de Capoeira Mocambo” yn gysylltiedig â’r “Associaςão de Capoeira Senzala Santos”, sef ysgol yr Uchel Feistr Mestre Sombra yn Santos, São Paulo, Brasil, sydd yn uchel iawn ei barch.

CLASSES

DOSBARTHIADAU

Mae Dosbarthiadau Nos yn “The Old Goods Yard” ger Tafarn yr Antelop (LL57 2HZ)

O’r cylchfan ymyl y dafarn, cymryd y lon i fynnu’r allt uwchben y dafarn. Cymerwch y trac bach ar y cornel sy’n rhedeg rhwng y dafarn a’r rheilffordd. Dilyn y trac i’r chwith trwy’r gatiau i TOGY, Capoeira yw’r adeilad cyntaf ar y chwith.
(Rydym yn cynnig gostyngiadau i deuluoedd)
Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Monitor Colin Daimond ar 07773 798199
neu Erbost:
info@capoeiramocambo.co.uk

Dydd Llun

Ieuenctid a Dechreuwyr
& Youth
6:30-7:30yp – £7.00

Dydd Mercher

Oedolion
6:30-7:30pm – £7.00

*Plant 4-7 Oed
4:00-4:45yp – £5.00

*Plant 7-11 Oed
4:45 – 5:45yp – £5.00

*Yn ystod tymor ysgol

Gwneir taliadau yn uniongyrchol / electronig i’n cyfrif. Ar ôl cyfnod i flasu’r dosbarthiadau, gofynnir am daliadau plant ar gyfer pob bloc o 6 wythnos o blaen llaw.

Mestre Sombra

Senzala Santos, Brazil

Yn Santa Rosa de Lima, Talaith Sergipe, Brasil y ganed y Mestre Sombra sef Roberto Teles de Oliveira. Symudodd i ddinas Santos, São Paulo yn 1962 ac ymunodd â grŵp Bahia do Berimbau yn 1963. Roedd “Grupo Bahia do Berimbau” yn cynnwys rhai o enwau mawr capoeira ar y pryd, i gyd yn hanu o Ogledd-ddwyrain Brasil.

Dan arweiniad y Meistr Bispo, byddent yn cyfarfod yn Vicente de Carvalho – i ymarfer capoeira ymhlith ei gilydd a chynnal Rodas yn y stryd. Yr olaf i ymuno â’r grŵp, ac un o’r rhai ieuengaf, oedd y Meistr Sombra. Rhoddodd y “Grupo Bahia do Berimbau” i’r Meistr Sombra y dasg o gynnal a rhannu eu gwybodaeth, eu traddodiadau a’u diwylliant. Yn 1975, wedi iddo gael rhan mewn amryw o wahanol brosiectau, sefydlodd y Mestre Sombra yr Associação de Capoeira Senzala de Santos, sydd â’u canolfan hyd heddiw yn Rua Bras Cubas, n. 227, Santos, São Paulo.

Mae llawer o feistri ac athrawon cynhyrchiol iawn wedi graddio o academi Senzala Santos oddi ar hynny, llawer ohonynt yn rhedeg eu hysgolion eu hunain yn Santos a dinasoedd cyfagos. Mae llawer ohonynt hefyd wedi sefydlu ysgolion ym mhob rhan o Ewrop a’r Unol Daleithiau. “Senzala” oedd y gair Portiwgaleg am farics caethweision pan oedd caethwasiaeth yn rhan o’r drefn ym Mrasil.

Gair oedd Mocambo i ddisgrifio’r anheddau a’r cymunedau alltud a sefydlwyd ym Mrasil yn y 18fed a’r 19eg ganrif gan gaethweision aeth ar ffo. Dywed yr Athro Stuart B. Schwartz mai gair o’r iaith Ambundu yw Mu-Kambo (Mocambo), yn golygu cuddfan.

Monitor Colin Daimond

Capoeira Mocambo, Cymru

Offerynnydd taro, artist symudiadau ac athro capoeira llawrydd yw Colin ac mae ganddo ugain mlynedd o brofiad yn y Celfyddydau. Daw o Ogledd Cymru yn wreiddiol a dechreuodd ymwneud â cherddoriaeth yn y gymuned yn 1994.

Ar ôl symud i Fanceinion, dechreuodd hyfforddi gyda Capoeira Norte yn 1997 gan gymhwyso fel “Aluno Formado” gyda hwy yn 2004.

Roedd ei hyfforddiant/prentisiaeth gyda Capoeira Norte yn cynnwys: myrdd o brosiectau maes a chymunedol; perfformiadau ar y stryd ac mewn clybiau; seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad, 2002; cydweithio ag artistiaid symudiadau o wahanol ddisgyblaethau yng nghwmni cynhyrchu “Urban Expansions” (Cyfarwyddwr Paul Sadot) a dysgu dosbarthiadau capoeira yn Ysgol Dawns Gyfoes Gogledd Lloegr.

Yn ystod 2005 treuliodd Colin 6 mis yn hyfforddi o dan y Mestre Sombra yn academi “Associação de Capoeira Senzala Santos” yn Nhalaith Sao Paulo, Brasil.

Dychwelodd Colin i Ogledd Cymru a bu’n Ymarferydd Datblygu Dawns Gymunedol i “Dawns i Bawb” ac yn Berfformiwr/Rheolwr Prosiect i Gywaith Dawns Gogledd Cymru.

Trwy ei gysylltiad â’r Mestre Sombra a Senzala Santos mae Colin wedi bod yn datblygu capoeira yn y Gogledd-orllewin.

Sefydlwyd y “Centro Cultural de Capoeira Mocambo” yn swyddogol ddechrau’r flwyddyn 2010 a threfnir dosbarthiadau rheolaidd ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant.

Gair oedd Mocambo i ddisgrifio’r anheddau a’r cymunedau alltud a sefydlwyd ym Mrasil yn y 18fed a’r 19eg ganrif gan gaethweision aeth ar ffo. Dywed yr Athro Stuart B. Schwartz mai gair o’r iaith Ambundu yw Mu-Kambo (Mocambo), yn golygu cuddfan.

Yn 2010 cafodd Colin grant hyfforddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru i’w helpu i ddatblygu a dod â mwy o amrywiaeth i’w sgiliau capoeira ei hun. Pan oedd ar daith ym Mrasil, cafodd ei wneud yn “Fonitor” (ail radd o athro) gan y Mestre Sombra.

Media

Dosbarthiadau Rheolaidd

Yn Gastell Penrhyn

Connecting Strings

TRAINING RESOURCES

More coming Soon!

Phone

07773 798199

Email

info@capoeiramocambo.co.uk

Facebook